Unrhywbeth gael ychydig o hwyl, yng Nghymraeg!

Heddiw dw i’n ddarllen llyfr newydd – Cysgod y Cryman (Shadow of the Sickle) gan Ffowc Elis. Mae’n stori am teulu’n byw ar fferm. Hefyd, mae gan y llyfr lawer o eiriau Gymraeg newydd i ddysgwyr. Ac idiomau fel hyn – ar fy llw (by golly), dim o’r fath beth (nothing of the sort), ac geiriau fel eiddigeddus (jealous), diawc (you know, as an expression), tyrd (come!). Gwych yn wir! Dw i’n dal i ddysgu Cymraeg ond dal angen cyfieithu â Ap Geiriadur o’r Prifysgol Bangor. Y broblem fwyaf yw mai ychydig o siaradwyr Cymraeg sydd o gwmpas yr ardal. Dw i’n eisiau‘r cyfle siarad â siaradwyr rhugl. Efallai, gallai defnyddio’r Rhyngrwyd fod o gymorth. Yn y cyfamser fe fydda i’n barhau darllen llyfr Cysgod y Cryman. Yn ffodus, mae’r llyfr yn cynnwys cyfieithiadau o’r geiriau anodd. Arfbais (Coat of Arms), a beth am anghynaladwy? Ie, gair am ein triniaeth o’r blaned a’r defnydd o’i hadnoddau! Unsustainable! Un cwestiwn, pam ydy bobl yn drio newid yr iaith? Defnyddio fformatau fel dw i yn lle rydw i neu joio yn lle mwynhau? Hyd yn oed yn waeth a ddim - yr wyf i? Gwneud lleferydd yn haws? Wir? Wel, dw i’n gobeithio dysgu llawer o’r geirau newydd ac hefyd y rhai fyddaf byth yn defnyddio!

Dw i’n credu bobl yn byw yng Nghymru fe dylen nhw siarad yr iaith o’r genedl, Cymraeg. Pam lai, neu dysgwch yn gyflym. Ik spreek ook Nederlands (Dw i’n siarad Isaldireg hefyd achos roedd fy ngeni yno). Yn anffodus, dw i ddim yn defnyddio Cymraeg yn aml ond gobeithio newid yn ystod eleni ‘ma. Cwestiwn arall, ble mae’r llyfrgelloed nawr? Atebion i AS lleol!

Rhywbeth arall, rhaid roeddwn i mynd i’r ysbyty. Pam? Oherwydd rhaid y llawfeddyg diddymu rhai tyfiannau mawr o fy nghefn. Neis iawn achos nawr alla i mynd nofio yn y môr eto! Yn ystod yr haf, wrth gwrs, mae hi braidd yn oer ar hyn o bryd. Mae He-man wedi dod yn ôl! Dw i ‘n wybod am broblemau gyda’r GIG ond yr ysbyty Cwm Rhondda yn dda iawn. Yn ôl at y llyfr nawr! Unrhywbeth gael ychydig o hwyl!



Comments

Popular posts from this blog

Where are the aliens?

Is there such a thing as mind-control?

Is humanity performing euthanasia on itself?